Beth yw dyfodol ein bywyd gwyllt?
Dydd Sul, Awst 1, 2010 9:00350 mlynedd ers genedigaeth Edward Llwyd, mae’n amserol i ni ofyn y cwestiwn – beth yw dyfodol ein bywyd gwyllt? Wrth i ni ddathlu pen-blwydd naturiaethwr mwyaf enwog Cymru, a chofnodi 2010 fel “Blwyddyn Bioamrywiaeth”, oes angen ymdrech newydd i sicrhau amrywiaeth natur?
Ar draws y byd, mae poblogaeth dynol-ryw yn cynyddu a’n galw am adnodau, ynni a thir yn tyfu bob blwyddyn. Oherwydd hyn, mae cynefinoedd naturiol yn crebachu a rhywogaethau yn diflannu. Rydym ni yng Nghymru yn defnyddio arwynebedd tir a môr tair gwaith maint Cymru yn llefydd eraill yn y byd i gyflawni ein galwad am adnoddau: petai ni’n mabwysiadu ffordd o fyw mwy cynaliadwy ac economi llai gwastraffus, mi fasa’r “difodiant mawr” bioamrywiaeth fyd-eang yn arafu.
Ond yma yng Nghymru mae ‘na waith i ni wneud hefyd. ‘Da ni wedi bod yn lwcus am dros ganrif i gael cyrff cadwraethol gydag adnoddau, gwybodaeth a dylanwad, a sustem ffermio sydd (ar y cyfan) wedi creu tirlun sy’n caniatáu i fywyd gwyllt ffynnu. Mae rhaid i’r llywodraeth sicrhau nad yw hyn yn newid. Ond mae’r pwysau ar ein tir yn dwysau, wrth i’r galw am fwyd a ffibr cynyddu, datblygiadau trefol a dinesig ehangu ac wrth i’r hinsawdd gythryblus newid patrymau cynefinoedd ac ecosystemau.
Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o’r ffordd ‘da ni’n rheoli amgylchedd Cymru yn y blynyddoedd nesaf. Yn lle bod bywyd gwyllt a’i chynefinoedd yn cael ei gwarchod ar wahân i’r amgylchedd dynol, y syniad yw mai’r sustemau naturiol yn ei chyfanrwydd fydd yn cael ei reoli er les i ni fel pobl ac i’r rhywogaethau eraill sy’n dibynnu arnynt.
Mae ‘na beryg yn hwn wrth gwrs. Os ‘da ni’n rhoi llai o bwyslais ar ddynodi safleoedd bywyd gwyllt ac arbed rhywogaethau prin, ydan ni’n mynd i golli’r cyfoeth mae can mlynedd o waith cadwraeth wedi gwarchod? Ydy’r agwedd newydd yma’n esgus i leihau’r arian sy’n cael ei glustnodi ar gyfer cadwraeth, a gwneud hi’n haws i ecsbloetio’r amgylchedd?
Neu ydy hyn yn gyfle gwych i werthfawrogi pwysigrwydd (yn ariannol ac yn gymdeithasol) ein sustemau naturiol yn ei chyfanrwydd, ac i sicrhau y bydden nhw’n cynnal ni’n bell i’r dyfodol? Efallai (fel yn enghraifft pysgodfeydd) mae hyn yn golygu defnyddio llai arnynt. Mae ‘na ddadlau cryf o blaid ail-gyflwyno rhywogaethau sydd wedi diflannu ers cyn cyfnod Edward Llwyd, fel yr afanc, i helpu’r sustemau naturiol weithio’n well.
Oes angen i ni hefyd edrych ar y cyrff cyhoeddus sy’n gwarchod yr amgylchedd ar ran y genedl? Ar hyn o bryd, Cyngor Cefn Gwlad yw’r unig un sydd wedi’i sefydlu yng Nghymru ac yn atebol yn uniongyrchol i bobl Cymru. Mae’r Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyfrifol am fywyd gwyllt ein hafonydd ond corff efo’i bencadlys yn Lloegr yw hwn: oes ‘na ddadl o blaid uno’r ddau gorff? Hefyd, oes angen trin tir sydd efo coed arni yn wahanol i dir sydd heb goed? O ran cadwraeth natur a rheolau sustemau naturiol, nac oes. Felly a fedrwn ni gynnwys gwaith y Comisiwn Coedwigaeth, sydd a’i phencadlys yn yr Alban ar hyn o bryd, mewn un Asiantaeth i Gymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn edrych i mewn i’r posibiliadau o greu un Asiantaeth i Gymru. A fydd hwn o fudd i fywyd gwyllt Cymru? A dyma’r ffordd o gael pobl Cymru i werthfawrogi’r amgylchedd naturiol sy’n ein cynnal ni?





