Datganiad preifatrwydd ac ymwadiad
Er mwyn cael ffydd yn y broses o gyfrannu gwybodaeth breifat i Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) drwy ffurflenni, cofrestriadau neu geisiadau ar-lein mae angen sicrwydd, ac mae’r un peth yn wir am gyfrannu i Flog CCGC. Yr hyn sy’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud hyn, yw bod eich preifatrwydd yn gwbl ddiogel a’n bod ninnau’n ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol. Mae diogelu eich gwybodaeth bersonol yn hollbwysig i ni.
Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni pan fyddwch yn defnyddio http://www.ccgc.gov.uk (“gwefan CCGC”) neu ‘Ein Golygfa’ (“Blog CCGC”). Mae defnyddwyr Blog CCGC hefyd yn ddarostyngedig i Delerau ac Amodau Blog CCGC [cliciwch ar y ddolen gyswllt i’w hagor]. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r datganiad hwn neu os nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â’r prif olygydd gwe drwy anfon e-bost i webeditor@ccw.gov.uk cyn defnyddio gwefan CCGC, gan gynnwys Blog CCGC.
Gall y datganiad preifatrwydd hwn gael ei newid ar unrhyw adeg a cheidw CCGC yr hawl i wneud newidiadau fel y gwêl orau. Os bydd unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i’r datganiad preifatrwydd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi ei ddiweddaru o’r datganiad preifatrwydd [cliciwch ar y ddolen gyswllt i’w hagor] yn y blog hwn ac ar wefan CCGC. Mae CCGC yn argymell eich bod yn adolygu’r datganiad hwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a sut y bydd yn cael ei defnyddio gan CCGC ac unrhyw drydydd parti y mae’n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth iddo yn unol â thelerau’r datganiad hwn.
Mae’r polisi hwn yn weithredol o 3 Mai 2010 ymlaen.
- Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
- Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu?
- Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?
- Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei newid
- Diogelwch
- Dolenni cyswllt
- Cwcis
1. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
1.1 Yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio’r wefan hon heb roi unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, mae rhai gwasanaethau ychwanegol, er enghraifft defnyddio Blog CCGC, na fyddant ar gael o bosibl i chi onid oes gennym wybodaeth benodol amdanoch.
1.2 Gallwn gasglu’r wybodaeth a ganlyn:
- [eich enw a manylion cysylltu, gan gynnwys cyfeiriad e-bost [a manylion cwmni];
- [gwybodaeth ynglŷn â’ch diddordebau personol neu broffesiynol, demograffeg, profiadau gyda’n cynnyrch a sut y byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi er mwyn darparu rhagor o ohebiaeth i chi ynglŷn â’n cynnyrch a’n gwasanaethau.]
2. Beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu?
2.1 Bydd yr holl wybodaeth a’r data a gedwir gan CCGC yn cael ei storio mewn cronfeydd data sy’n eiddo i CCGC yn unig a neb arall.
2.2 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddarparu gwell gwasanaeth i chi, ac yn fwyaf arbennig er mwyn gwneud y canlynol:
- cadw cofnodion mewnol;
- gwella’n gwasanaethau a chynllunio ar gyfer datblygiadau ar safleoedd yn y dyfodol;
- monitro’r defnydd o’r wefan;
- anfon negeseuon e-bost atoch, yn ddarostyngedig i Delerau ac Amodau defnyddio Blog CCGC, i ddibenion gweinyddu Blog CCGC ar ôl i chi gofrestru; neu
- anfon copïau atoch o gylchlythyr electronig CCGC, os dywedasoch eich bod yn awyddus i dderbyn cylchlythyrau o’r fath pan ofynnwyd y cwestiwn hwnnw i chi yn ystod y broses gofrestru.
2.3 Gallwn gysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post.
3. Gyda phwy rydym yn rhannu’r wybodaeth hon?
Ni fyddwn yn trosglwyddo, datgelu, gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti oni bai ein bod wedi cael caniatâd gennych neu ei bod yn ofynnol inni wneud hynny yn unol â’r gyfraith. Gallwn ryddhau eich gwybodaeth bersonol i’n hasiantau marchnata uniongyrchol awdurdodedig neu asiantau eraill oni bai eich bod yn dweud wrthym nad ydych yn dymuno i hyn ddigwydd.
4. Sut i gael copïau o’r wybodaeth rydym wedi ei chasglu neu ei newid
4.1 Gallwch ofyn am fanylion am wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffi fechan. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch ysgrifennwch at ein Swyddog Cydymffurfio Diogelu Data yn y cyfeiriad isod :
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Maes-y-Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd LL57 2DW
Neu, anfonwch eich cais mewn e-bost at enquiries@ccw.gov.uk.
4.2 Os ydych yn meddwl bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, anfonwch lythyr neu e-bost atom cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn cywiro neu’n diweddaru unrhyw wybodaeth cyn gynted ag y bo modd.
5. Diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad at wybodaeth heb ganiatâd, neu ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd rydym wedi cyflwyno trefniadau ffisegol, electronig a rheolaethol i ddiogelu a gwarchod yr wybodaeth a gesglir gennym ar-lein.
6. Dolenni Cyswllt
Gallwn ddefnyddio dolenni cyswllt i gysylltu â gwefannau eraill nad ydynt dan ein rheolaeth, er enghraifft, yn yr erthyglau ac fel adnodd ar ddiwedd llawer o dudalennau a phenodau ar y safle. Ar ôl i chi adael gwefan CCGC, ni all CCGC fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych. Dylech gymryd gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
7. Beth yw cwci?
7.1 Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan, bydd ein gweinydd gwe yn siarad yn uniongyrchol â’ch porwr gwe chi, er mwyn arddangos a darparu gwybodaeth yn gywir. Mae hefyd yn tagio’r porwr â gwybodaeth am eich ymweliad ac mae’r porwr yn ei dro yn cadw’r wybodaeth hon mewn ffeil destun sylfaenol.
7.2 Pa bryd bynnag y byddwch yn dewis dychwelyd i http://www.thewelshview.co.uk bydd yr wybodaeth yn cael ei hanfon yn ôl at y gweinydd wedyn bob tro y bydd eich porwr yn gofyn am dudalen, ac yn ‘siarad’ â’r gweinydd.
7.3 Mae cwcis yn rhoi gwybodaeth gyffredinol bwysig i ni am ymddygiad ein defnyddwyr wrth ddefnyddio’n gwefan – pa feysydd y maent yn mwynhau ymweld â hwy, pa wasanaethau y maent yn eu defnyddio’n aml, ac yn y blaen.
7.4 Nid yw gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn cael ei storio yn y cwcis hyn.
7.5 Mae’r rhan fwyaf o’r porwyr gwe’n derbyn cwcis yn ôl rhagosodiad. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo’n anghyfforddus ynglŷn â chwcis, mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch porwr gwe wrthod pob cwci neu adael i chi wybod pan fydd cwci’n cael ei anfon i’ch cyfrifiadur chi. Gallwch wedyn ddewis a ydych am dderbyn y cwci ai peidio.
7.6 Bydd CCGC yn diweddaru’r telerau hyn os bydd y polisi cwcis yn cael ei newid a’i addasu. Dylech geisio ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd, er mwyn adolygu’r telerau sefydlog gan eich bod wedi eich rhwymo iddynt fel defnyddiwr.
7.7 Mae gwybodaeth ychwanegol am gwcis ar gael ar nifer o wefannau:




