Dydd Sadwrn yn yr Eisteddfod
Dydd Mawrth, Awst 3, 2010 9:55Gan: Jenny Pye
Dim Sylwadau
Diwrnod cyntaf yn yr Eisteddfod (Sadwrn), dim ond fi ar y stondin, ac mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn
Dwi wedi dysgu llawer wrth edrych ar ol y bwrdd natur:
- nyth cacwn fel lantern papur
- nyth mwyalchen yn wahanol i nyth deryn du
- lafa gwas y neidr yn edrych fel locwst (yn ol un ymwelydd ifanc i’r stondin!)
Ac mae pobl ddiddorol iawn wedi dod i’r stondin:
- criw o ddysgwyr o America – mae sawl poster wedi mynd yn ol i’r dosbarthiadau Cymraeg yno
- dyn efo nadroedd yn yr ardd – llyfryn y Cyngor ‘Ymlusgiaid yn eich gardd’ yn ateb iddo fo
- dynes oedd wedi cael gwas y neidr anferth yn y ty – cael poster gloynod byw yn ei phlesio yn fawr
Roedd nifer o gwestiynau doeddwn i ddim yn gallu ateb, ond yn ffodus iawn mae gynnon ni gymdogion holl-wybodus ar y Maes – RSPB Cymru ar un ochr, Cymdeithas Edward Llwyd ar y llall, ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gyferbyn yn y babell wyddoniaeth………handi iawn i fi!
Gallwch adael sylw , neu ôl-drac o'ch safle eich hunan.





