Golwg newydd ar Barc Morglawdd Caergybi

Dydd Iau, Awst 19, 2010 10:58
Gan: Helen Evans

Cefais olwg newydd ar harddwch a hanes Ynys Môn y prynhawn yma – yng nghwmni criw hwyliog, heb anghofio’u cwn tywys wrth gwrs! Parc Gwledig Morglawdd Caergybi oedd ein cyrchfan.

Mae’r criw yn dod at ei gilydd i gerdded mewn amrywiol lefydd bob mis – ac mae’r Cyngor Cefn Gwlad ymhlith cefnogwyr y cynllun, drwy roi ychydig amser i ni adael ein desgiau a helpu i dywys y criw.

Fe gychwynnon ni o draeth Newry, a’r gwynt yn ein wynebau a swn mastiau’r cychod yn y marina. Nesu wedyn at y Parc ar hyd y lôn fach gysgodol, teimlo’r haul ar ein gwar a’r sgwrs yn llifo. Cyrraedd Llyn Llwynog a chlywed yr ieir dwr a’r hwyiaid gwylltion yn glanio’n osgeiddig – ac yn ddigon pell o’r cychod bach!

Pawb cyn cychwyn

Y grwp yn barod i gerdded yng Nghaergybi

Dydy’r haf ddim yn haf heb bicnic. Dros ginio fe glywson ni fod tunelli o gerrig o’r chwarel yn y Parc wedi’u defnyddio i greu morglawdd Caergybi. Mae’n 2.39 km o hyd – yr hiraf yn Ewrop.

Troi am adre drwy gerdded rhan o lwybr arfordir Ynys Mon – fydd yn rhan o lwybr arfordir Cymru gyfan erbyn 2012. Dyma gynefin a thirwedd gwahanol eto. Er nad oedd merlod i’w gweld yma ym mis Awst, roedd eu heffaith yn amlwg, a’r rhostir a’r blodau gwyllt yn ffynnu.

Erbyn hyn mae’r criw wedi crwydro nifer o ardaloedd godidog – Coedwig Gwydyr, Pen Sychnant, Ynys Llanddwyn, Llyn Elsi (Betws y Coed) a Thy Mawr Wybrnant (Penmachno) i enwi dim ond rhai…

Cerddwyr hapus

Pawb yn mwynhaur daith gerdded

Os oes ganddoch chi syniadau am safleoedd braf eraill y gallen ni ymweld â nhw, neu os hoffech wirfoddoli i helpu ar daith, rhowch wybod!

Mae son am goncro’r Wyddfa…..mae unrhyw beth yn bosib i’r criw yma.

Gallwch adael sylw , neu ôl-drac o'ch safle eich hunan.

2 Sylw i “Golwg newydd ar Barc Morglawdd Caergybi”

  1. Meddai Karen Rawlins:

    Awst 31st, 2010 am 10:52 am

    Swnio, ac yn edrych, fel diwrnod anhygoel. Bydd rhiad i mi wirfoddoli!

  2. Meddai renda extra:

    Mehefin 1st, 2011 am 7:41 pm

    Roeddwn yn hoffi’r safle!

    Mary Smith

Gadewch sylw