“Oes ‘na wiwerod yma?”
Dydd Gwener, Hydref 28, 2011 10:49Mi ges i’r fraint ganol y mis o dywys criw o ddisgyblion Ysgol Tanygrisiau a’u pennaeth, i un o warchodfeydd eu milltir sgwâr, Coed Cymerau. Dyma un o hanner dwsin o warchodfeydd mae’r Cyngor Cefn Gwlad yn rheoli ym Mro Ffestiniog a Maentwrog, ardal sy’n gyfoethog iawn ei choedwigoedd derw.
Soniais sut oedd coed yn gorchuddio llawer mwy o dirwedd Cymru yn y gorffennol, ac adrodd y darnau hynny o chwedl Culhwch ac Olwen sy’n gliwiau i ddylanwad pobl dros y canrifoedd. Un o’r tasgau gafodd Culhwch gan Ysbaddaden, tad blin Olwen, er mwyn cael ei phriodi, oedd clirio coedwig, a llosgi’r coed er mwyn gwrteithio’r ddaear, wedyn trin y tir a thyfu cnydau arno. Wedyn wrth chwilio am Mabon, mae’n holi anifeiliaid hynaf y ddaear, gan gynnwys Tylluan Cwm Cawlwyd, ac meddai hwnnw:
“Pan ddois i yma gyntaf roedd y cwm mawr yma a welwch chi’n llawn o goed. Ac fe ddaeth cenhedlaeth o ddynion yma a difa’r coed. Yna fe ddaeth ail dyfiant o goed. A’r coed a welwch chi yma rŵan ydi’r trydydd tyfiant.” 1
Hyfryd oedd cael mynd i warchodfa nad wyf yn arfer gweithio arni, a hynny efo criw mor frwdfrydig a byrlymus, er gwaethaf y cawodydd glaw. Dyna griw o gymeriadau! Mi fuo nhw’n holi cwestiynau difyr a chall iawn y pnawn hwnnw, ac yn dangos diddordeb ym mywyd gwyllt a hanes eu bro, mewn materion amgylcheddol a llygredd, a mwy. Be gewch chi’n well i godi calon pan nad ydi’r tywydd yn plesio? Bu’r cawodydd yn gyfle i ddisgrifio coedwigoedd derw Cymru fel fforestydd glaw, ac roedd cryn lif yn Afon Goedol pan oedden ni yno. Amodau perffaith i weld y rhaeadrau’n wyllt a’r dafnau mân o ddŵr yn llenwi’r aer, a chanopi’r coed yn cadw’r ardal yn llaith. Dyma sy’n gwneud coedwigoedd derw Gwynedd yn arbennig o bwysig yn rhyngwladol o ran mwsoglau prin. Cofnodwyd dros gant a hanner o wahanol fwsog yng Nghoed Cymerau.
Gofynnodd un o’r plant os oedd wiwerod yno? Wel, oes mae yno wiwerod… es i ddim i son am broblemau dyrys wiwerod llwyd, ond roedd pawb i weld wedi eu plesio a’u synnu i glywed y gall wiwer gerdded a neidio bob cam o’r môr (wel, yr aber ym Mhenrhyndeudraeth beth bynnag) i’r Blaenau, hyd frigau’r coed, heb orfod dod i’r llawr o gwbl bron!
Aeth pob un adref i Danygrisiau efo llond poced o fes y diwrnod hwnnw, er mwyn ymestyn y goedwig ymhellach.
Bu’n ddiwrnod prysur i’r plant, yn dilyn Afon Barlwyd trwy eu pentref hyd nes mae’n ymuno ag Afon Bowydd i greu Afon Goedol. Mi fuon nhw’n edrych ar bysgod efo swyddogion bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd yn Llyn Ffridd, a gweld sut mae chwarel Llechwedd, a chwmni First Hydro yn cynhyrchu trydan efo dŵr. Maen nhw hefyd wedi bod yn clirio sbwriel o’r glannau ac wedi bod yn dysgu am afonydd yn y dosbarth. Llongyfarchiadau i brosiect Y Dref Werdd am drefnu gweithgareddau mor fuddiol i’r plant ac i’r gymuned.
1 Addasiad Gwyn Thomas (un arall o hogia Stiniog). Gwasg Prifysgol Cymru 1988






