Telerau ac amodau defnyddio’r Blog
Mae’r datganiad hwn o delerau ac amodau defnyddio (“Datganiad”) yn llywodraethu’r berthynas rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru (“CCGC”) a’i ddefnyddwyr sy’n rhyngweithio drwy ‘Ein Golygfa’ (“Blog CCGC”). Drwy ddefnyddio neu edrych ar Flog CCGC, mae defnyddwyr yn cytuno i lynu wrth y Datganiad hwn a ddaw i rym ar unwaith wrth i chi ddefnyddio Blog CCGC am y tro cyntaf. Mae defnyddwyr hefyd yn rhwym wrth Delerau ac Amodau defnyddio gwefan CCGC [cliciwch y ddolen i agor] ar brif wefan CCGC.
Mae CCGC yn cadw’r hawl i newid y Datganiad hwn o bryd i’w gilydd. Gofynnir i chi felly ddarllen y Datganiad yn rheolaidd, oherwydd bydd y ffaith eich bod yn parhau i ddefnyddio Blog CCGC yn golygu eich bod wedi derbyn y Datganiad sydd wedi’i newid neu ei ddiweddaru. Mae’r Datganiad hwn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr Blog CCGC.
1. Preifatrwydd
1.1 Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i CCGC ac mae unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn amodol ar ein Datganiad Preifatrwydd ac Ymwadiad (“Datganiad Preifatrwydd”) [cliciwch y ddolen i agor], sydd ar gael yn y blog hwn. Drwy ddefnyddio Blog CCGC, pennir eich bod wedi darllen a derbyn ein Datganiad Preifatrwydd a’ch bod yn caniatáu i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth yn unol â’r Datganiad Preifatrwydd hwnnw.
1.2 Drwy gyfrannu at Flog CCGC, rydych yn cytuno ar gymal 2 isod ac yn benodol rydych yn derbyn y gellir cyhoeddi eich cyfraniad ar Flog CCGC a bod modd i unrhyw un yn y byd ei ddefnyddio neu ei ddarllen.
2. Rhannu cyfraniadau ar Flog CCGC
2.1 Yn y Datganiad hwn, mae cyfeirio at “gyfraniad” yn golygu unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys, ond nid y rhain yn unig, testun, delweddau, sain neu fideo rydych chi’n eu cyflwyno i Flog CCGC am ba reswm bynnag. Mae’r Datganiad hwn yn berthnasol i bob cyfraniad a wnewch chi.
2.2 Drwy gyfrannu at Flog CCGC rydych yn gwarantu bod cyfraniad o’r fath:
2.2.1 yn waith gwreiddiol i chi a bod gennych yr hawl i’w ddarparu i CCGC at yr holl ddibenion a bennir yng nghymal 2.3 isod; a
2.2.2 nad yw’n torri unrhyw gyfreithiau.
2.3 Drwy gyfrannu at Flog CCGC, rydych yn cytuno i roi i CCGC hawl a thrwydded anghyfyngedig, byd-eang, parhaol, heb freindal, trosglwyddadwy, is-drwyddedadwy i ddefnyddio’r cynnwys a’r wybodaeth mewn unrhyw ffordd mae’n dymuno, gan gynnwys ond nid yn unig, atgynhyrchu, addasu, newid, cyhoeddi, cyfieithu, creu gwaith yn deillio ohono, dosbarthu, perfformio ac ymarfer yn fyd-eang pob hawlfraint a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill yn yr wybodaeth yn amodol ar ein Datganiad Preifatrwydd.
2.4 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth nid yw’r hawl a’r drwydded a roddir i CCGC dan gymal 2.3 yn gyfyngedig. Byddwch chi yn dal yn berchen ar hawlfraint a phob hawl eiddo deallusol arall yr holl gynnwys a gwybodaeth a gyfrannwch at Flog CCGC yn unol â chymal 2.2 a chewch barhau i ddefnyddio cynnwys a gwybodaeth o’r fath mewn unrhyw ffordd rydych yn dymuno, gan gynnwys caniatáu i eraill ei ddefnyddio.
2.5 Rydych yn cytuno i hepgor unrhyw hawliau moesol yn eich cyfraniad at ddibenion cyflwyno a chyhoeddi ar Flog CCGC.
2.6 Ni ddylech gyflwyno na rhannu unrhyw gyfraniad at Flog CCGC os ydych yn gwrthwynebu rhoi’r hawl a’r drwydded i CCGC fel yr amlinellir yng nghymal 2.3.
3. Cynnwys cyfraniadau
3.1 Rhaid i unrhyw gyfraniad a gyflwynwch i Flog CCGC fod yn gwrtais ac yn chwaethus, ac wrth gyfrannu, rhaid i chi lynu wrth y canlynol bob amser:
3.1.1 Peidiwch â chyflwyno unrhyw gyfraniadau anghyfreithlon, sarhaus, anllad, sy’n gwahaniaethu, yn harasio, yn peri tramgwydd nac yn ddifrïol.
3.1.2 Peidiwch â chyflwyno unrhyw gyfraniadau sy’n peri’r risg o ragfarnu achos llys sy’n mynd rhagddo neu sydd yn yr arfaeth;
3.1.3 Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw waharddeb llys bob amser (er enghraifft, peidiwch â dyfalu ynghylch lleoliad unigolyn ar ôl i lys gyhoeddi gwaharddeb yn erbyn gwneud hynny);
3.1.4 Peidiwch â chyflwyno sawl cyfraniad sydd â’r un cynnwys neu gynnwys tebyg iawn, er mwyn caniatáu i CCGC gyhoeddi ystod mor eang o gyfraniadau ag sy’n bosibl;
3.1.5 Peidiwch â rhegi na defnyddio geiriau a allai achosi tramgwydd i ddefnyddwyr eraill Blog CCGC. Yn benodol, dylech gofio bod defnyddwyr o bob oed yn darllen ac yn cyfrannu at Flog CCGC.
3.1.6 Peidiwch â chyhoeddi eich gwybodaeth bersonol na gwybodaeth bersonol unrhyw un arall mewn cyfraniad, gan gynnwys cyfeiriadau, lleoliadau gwaith, enw sefydliad addysgol, rhifau ffôn na chyfeiriadau e-bost;
3.1.7 Nid oes gennych chi hawl i hysbysebu na hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau na phostio dolenni gwe. Os ydych yn dymuno cyfrannu dolen we i Flog CCGC, dylech gysylltu â golygydd gwe CCGC dros yr e-bost yn webeditor@ccw.gov.uk.
3.1.8 Dylech gyfrannu yn Gymraeg [a Saesneg] yn unig. Mae CCGC yn cadw’r hawl i wrthod cyhoeddi cyfraniadau mewn unrhyw iaith arall, ond gall cyfarchion cyffredin mewn ieithoedd eraill fod yn dderbyniol yn ôl disgresiwn absoliwt CCGC.
3.1.9 Peidiwch â chymryd arnoch mai rhywun arall ydych chi wrth gyfrannu; a
3.1.10 Peidiwch â defnyddio enwau defnyddiwr amhriodol, er enghraifft unrhyw enw defnyddiwr a allai achosi tramgwydd i ddefnyddwyr eraill.
3.2 Gall methu â glynu wrth delerau cymal 3.1 arwain at CCGC yn cymryd camau yn unol â chymal 6 isod.
4. Cyhoeddi cyfraniadau
4.1 Pan fyddwch yn cyflwyno cyfraniad at Flog CCGC, ni chaiff hwn ei gyhoeddi ar unwaith ac felly ni fydd modd ei weld ar Flog CCGC yn syth a bydd yn rhaid iddo gael ei ystyried gan safonwyr CCGC cyn iddo gael ei gyhoeddi ar Flog CCGC.
4.2 Mae CCGC yn cadw’r hawl i wrthod cyhoeddi unrhyw gyfraniad ar Flog CCGC yn ôl ei ddisgresiwn absoliwt.
4.3 Nid yw’r ffaith bod CCGC yn cyhoeddi cyfraniad ar Flog CCGC na’r ffaith bod CCGC yn ei ddefnyddio yn golygu unrhyw bryd bod CCGC yn derbyn, yn cymeradwyo nac yn cytuno â’r cyfraniad hwnnw a bydd darparwr y cyfraniad hwnnw i CCGC bob amser yn dal yn atebol am y cyfraniad hwnnw yn unol â thelerau’r Datganiad hwn.
5. Defnyddwyr dan 16 oed
5.1 Rhaid i chi gael caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn cyfrannu at Flog CCGC.
5.2 Ni ddylech ddatgelu dim gwybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun nac unrhyw un arall, er enghraifft manylion eich enw llawn, eich ysgol, eich rhif ffôn na’ch cyfeiriad.
6. Torri’r datganiad hwn
6.1 Os byddwch chi’n torri unrhyw un o delerau’r Datganiad hwn, mae CCGC yn cadw’r hawl i gymryd unrhyw gamau y mae’n pennu sy’n briodol i ddelio â thorri o’r fath. Mae ganddo ddisgresiwn absoliwt i wneud hyn ac nid yw hynny’n rhagfarnu ei hawliau eraill dan y Datganiad hwn. Gall camau o’r fath gynnwys gwaharddiad rhag defnyddio unrhyw un o wefannau CCGC, rhwystro unrhyw gyfrifiadur sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag defnyddio unrhyw un o wefannau CCGC, cysylltu â’ch darparwr rhyngrwyd yn gofyn iddynt rwystro eich mynediad i unrhyw un o wefannau CCGC a/neu gychwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn.
6.2 Byddwch yn indemnio CCGC yn erbyn pob hawliad, colled neu atebolrwydd sy’n codi oherwydd eich bod wedi torri unrhyw un o delerau’r Datganiad hwn.
7. Ymwadiad a chyfyngiad atebolrwydd
7.1 Nid yw CCGC yn cymeradwyo, yn cefnogi, yn cynrychioli nac yn gwarantu cyfanrwydd, geirwiredd, cywirdeb na dibynadwyedd unrhyw gyfraniad a gyflwynir i Flog CCGC oni bai fod CCGC yn nodi’n benodol i’r gwrthwyneb.
7.2 Nid yw CCGC yn gwarantu y bydd mynediad i Flog CCGC na’r gallu i’w ddefnyddio ar gael heb ymyriad na gwall, y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro nac y bydd gwefan CCGC na’r gweinydd yn rhydd rhag firysau na chwilod.
7.3 Mae defnyddwyr Blog CCGC yn derbyn drwy wneud hynny efallai y cânt eu datgelu i gyfraniadau a all beri tramgwydd, a all fod yn niweidiol neu’n anghywir neu a allai fod yn amhriodol fel arall.
7.4 Ni fydd CCGC, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, yn atebol unrhyw bryd am:
7.4.1 unrhyw golledion canlyniadol uniongyrchol nac anuniongyrchol a allai ddod i’ch rhan o ganlyniad i ddefnyddio Blog CCGC, gan gynnwys, ond nid yn unig, colli elw (boed hynny wedi digwydd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), colli ewyllys da neu enw da busnes neu golli unrhyw ddata a ddaw i’ch rhan;
7.4.2 unrhyw newidiadau a wneir gan CCGC i Flog CCGC, nac am roi’r gorau i Flog CCGC dros dro neu’n barhaol; a
7.4.3 dileu, llygru, neu fethu storio unrhyw gyfraniadau neu ddata cyfathrebu arall sydd i’w gynnal neu ei drosglwyddo wrth i chi ddefnyddio Blog CCGC.
7.5 Ni fydd dim byd yn y Datganiad hwn yn cyfyngu nac yn eithrio atebolrwydd CCGC am farwolaeth nac anaf personol a achosir gan ei esgeulustod nac am unrhyw atebolrwydd arall na chaiff ei gyfyngu na’i eithrio dan y gyfraith.
7.6 Caiff Blog CCGC ei ddarparu yn rhad ac am ddim i bob defnyddiwr. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae pob defnyddiwr yn cydnabod ac yn cytuno bod y cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Datganiad hwn yn rhesymol.
8. Cyffredinol
8.1 Os canfyddir bod unrhyw un o delerau’r Datganiad hwn yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir eu gweithredu fel arall o ganlyniad i unrhyw gyfraith unrhyw dalaith neu wlad lle bwriedir i’r Datganiad hwn fod yn weithredol, yna i’r graddau ac o fewn yr awdurdodaeth y mae’r term yn anghyfreithlon, yn annilys neu na ellir ei weithredu, caiff ei ddileu a’i ddiddymu o’r Datganiad hwn a bydd y telerau sy’n weddill yn goroesi, yn parhau mewn grym llawn ac yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.
8.2 Ni fydd unrhyw fethiant neu oediad gan CCGC wrth ymarfer neu orfodi unrhyw hawl yn y Datganiad hwn yn hepgor hawl CCGC i orfodi’r hawl hwnnw.
8.3 Bydd telerau’r Datganiad hwn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn cael ei drin gan lysoedd Cymru a Lloegr yn unig.




