Y nenfwd dur amgylcheddol

Dydd Iau, Tachwedd 4, 2010 11:36
Gan: Elinor Gwynn

Mae’n anodd credu weithiau ein bod ni’n gweithio yn yr 21ain Ganrif. Wrth wrando ar leisiau criw o uwch-reolwyr cyrff amgylcheddol yn powlio allan o ‘stafell gyfarfod ychydig wythnosau nôl, dyma ddechrau pendroni i ba raddau mae menywod wedi llwyddo cyrraedd rhengoedd uchaf ein cyrff amgylcheddol cyhoeddus yng Nghymru. Lleisiau dyfnion oedden nhw i gyd – ag eithrio’r un a oedd yn perthyn i’r person a oedd yn gyfrifol am drefnu, hwyluso a chymryd nodiadau. Swnio’n gyfarwydd? Mae’r ffeithiau’n ddifrifol. O edrych ar y gynrychiolaeth o fewn y bum haen uchaf o reolwyr yn y chwe phrif gorff amgylcheddol cyhoeddus Cymreig mae llai na 30% o staff yn fenywod. Yn achos rhai o’r haenau hyn – fel cadeiryddion, byrddau rheoli a chyfarwyddwyr mae’r gynrychiolaeth yn disgyn i lai nag 20%. Ac nid oes un prif weithredwr fenywaidd ymhlith y chwe chorff. Mae gan bob un o’r cyrff hyn bolïsiau cydraddoldeb – sut felly mae gynnon ni sefyllfa mor gywilyddus o fewn ein sector gyhoeddus Cymreig?

Gallwch adael sylw , neu ôl-drac o'ch safle eich hunan.

Gadewch sylw